Arestio dau ar amheuaeth o lofruddiaeth wedi diflaniad dyn

llofruddiaeth Image copyright Heddlu'r De
Image caption Diflannodd Jamie John Perkins ar 8 Hydref

Mae dau berson wedi eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth mewn cysylltiad â diflaniad dyn o Donyrefail.

Cadarnhaodd Heddlu'r De fod dyn 33 oed a dynes 32 oed yn cael eu holi mewn cysylltiad â diflaniad Jamie John Perkins.

Cafodd Mr Perkins, 41 oed, ei weld ddiwethaf ar 8 Hydref.

Roedd yn gwisgo siwmper las tywyll gyda logo 'Duffer', jins glas ac esgidiau ymarfer du pan ddiflannodd.

Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu ag 101 neu Daclo'r Tacle ar 0800 555 111 gan ddyfynu'r cyfeirnod 1700397197.