Ben Woodburn yn arwyddo cytundeb newydd â Lerpwl

Ben Woodburn Image copyright Getty Images
Image caption Ben Woodburn wnaeth sgorio'r gôl fuddugol ar ei gap cyntaf i Gymru yn erbyn Awstria

Mae ymosodwr ifanc Cymru, Ben Woodburn wedi arwyddo cytundeb newydd hirdymor gyda Chlwb Pêl-droed Lerpwl.

Daw yn dilyn blwyddyn wych i'r gŵr 18 oed, wrth iddo ennill pedwar cap i Gymru a sgorio'r gôl fuddugol yn ei ymddangosiad rhyngwladol cyntaf yn erbyn Awstria.

Fe wnaeth ei ymddangosiad cyntaf i dîm cyntaf Lerpwl hefyd, ac ef yw'r chwaraewr ieuengaf erioed i sgorio i'r clwb.

Woodburn oedd chwaraewr academi'r flwyddyn i'r clwb o Lannau Mersi, a'r gred yw ei fod wedi arwyddo cytundeb pum mlynedd.

"Mae'n deimlad gwych arwyddo cytundeb newydd gyda Lerpwl," meddai. "Rydw i eisiau bod yma am gymaint o amser â sydd bosib.

"Pan ges i wybod, oll oeddwn i eisiau gwneud oedd arwyddo'r cytundeb. Nawr dwi eisiau cario 'mlaen a gobeithio dangos i'r rheolwr yn hyn dwi'n gallu'i wneud."

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol