Lloyd Macey
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Pob Lwc Lloyd!

7 Tachwedd 2017 Diweddarwyd 10:50 GMT

Pwy sy'n fwy brawychus - Simon Cowell neu feirniad yn yr Eisteddfod Genedlaethol? Mae Lloyd Macey wedi wynebu'r ddau.

Ym mis Awst, daeth y canwr 23 oed o'r Rhondda yn ail yng nghystadleuaeth yr Unawd o Sioe Gerdd, dros 19 oed yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ynys Môn.

Nos Sadwrn, bydd Lloyd yn cystadlu o flaen miliynau o bobl yn sioeau byw X Factor.

Pob lwc Lloyd!