Cyflogau gweithwyr Cymru yw'r isaf yn y DU

pres mewn waled Image copyright Getty Images

Gweithwyr Cymru sy'n "cael y cyflog net isaf" yn y DU, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Fe gododd cyflogau o 1% yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2017, ond gan fod chwyddiant yn 2.6%, mae hynny'n ostyngiad mewn termau real o 1.6%.

Canolrif cyflogau gweithwyr llawn amser yng Nghymru yw £498.40, ac mae hynny dros £50 yn llai na'r DU yn ei chyfanrwydd.

Mae Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu Llywodraeth Lafur Cymru, ond fe ddywedon nhw eu bod "wedi ymrwymo i godi cyflogau".


Dadansoddiad rhaglen newydd The Hour ar BBC One Wales:

Mae adroddiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod enillion real bellach £1,100 y flwyddyn yn is nag oedden nhw yn 2009.

Yn 2009, flwyddyn wedi'r dirwasgiad, roedd cyfartaledd enillion real Cymru yn £27,000, ond mae ffigwr heddiw - ar ôl addasu i adlewyrchu costau byw - yn £25,900 ar gyfartaledd.

Yn ôl un dangosydd economaidd allweddol, dyw Cymru felly heb ddod dros y dirwasgiad.

Dynion Cymru sydd wedi diodde' waethaf, gan ennill £2,100 yn llai nag yn 2009.

Yn ddiddorol, roedd cyflogau real wedi bod yn gwella cyn eleni, ac fe welodd Cymru ddwy flynedd o gyflogau'n codi yn 2015 a 2016.

Ond mae enillion real wedi disgyn o 2016-17 o £416 yr wythnos, yn bennaf oherwydd chwyddiant sy'n codi.

Bydd The Hour yn cael ei darlledu ar BBC One Wales am 22:40 ar nos Lun, 30 Hydref.


Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Adam Price, fod "llymder wedi methu yng Nghymru" a'i bod yn bryd i fuddsoddi mewn pobl a chymunedau.

Ychwanegodd fod y ffigyrau'n "awgrym clir o fethiannau llywodraethau Cymru a'r DU yn eu dyletswyddau i bobl Cymru".

"Mae'n bryd rhoi'r gorau i'r diwylliant o doriadau, sydd wedi arwain at ddim ond dirywiad economaidd," meddai.

Dywedodd llefarydd Ceidwadwyr Cymru ar yr economi, Russell George fod gweithwyr Cymru "yn parhau i gael y cyflogau isaf ym Mhrydain".

"Mae bywyd yn gallu bod yn galed i bobl ar incwm isel, ac mae'n gallu bod yn galed i fedru talu am y pethau hanfodol neu i grafu digon o arian i fynd i'r farchnad dai," meddai.

Ychwanegodd fod Llywodraeth Cymru "heb wneud digon i daclo'r mater yma gyda'r arfau sydd ganddynt".

Image copyright Getty Images
Image caption Prentis yn ffatir Airbus ym Mrychdyn, Sir y Fflint

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y "nifer fwyaf erioed" o bobl mewn gwaith, gyda diweithdra ar "lefel hanesyddol o isel ac yn is na'r cyfartaledd ar gyfer y DU".

Dywedodd fod cynlluniau mewn Twf Swyddi Cymru, ReAct a "chefnogaeth gyflym i'r diwydiant dur" yn dangos fod y llywodraeth wedi rhoi "cefnogaeth gyson" i gymunedau ar draws Cymru yn ystod un o ddirwasgiadau gwaethaf y byd.

"Rydym wedi ymrwymo i weld cyflogau'n codi drwy ystod i fesurau economaidd fydd yn helpu i ddenu mwy o fuddsoddwyr i mewn i Gymru, gweithredu ymarferion gwaith gwell a thaclo cynhyrchiant isel drwy wella sgiliau, arweiniad a dyfeisgarwch ar draws Cymru," ychwanegodd.

Pynciau Cysylltiedig