Arestio dyn yn dilyn digwyddiad yn Nhreganna, Caerdydd

wyndham crescent
Image caption Cafodd yr heddlu eu galw i ddigwyddiad ar Wyndham Crescent yng ngorllewin y ddinas

Mae Heddlu De Cymru yn dweud fod dyn 23 oed wedi ei arestio yn dilyn digwyddiad yn ardal Treganna, Caerdydd.

Dywedodd y llu fod dyn arall wedi ei gludo i'r ysbyty wedi'r digwyddiad yn Wyndham Crescent.

Mae'r ffordd yno yn parhau i fod ynghau, ac mae'r heddlu wedi gofyn i bobl gadw draw.

Ychwanegodd gwasanaeth bysus Caerdydd eu bod yn dargyfeirio rhai cerbydau ar hyd Ffordd Llandaf am y tro.

Pynciau Cysylltiedig