Adran Dau: Notts County 3-0 Casnewydd

Jorge Grant Image copyright Rex Features
Image caption Jorge Grant yn sgorio ei wythfed gôl o'r tymor

Mae Notts County wedi cyrraedd brig Adran Dau ar ôl curo 10 dyn Casnewydd yn Meadow Lane.

Cafodd amddiffynnwr yr ymwelwyr, Dan Butler ei anfon o'r cae yn yr hanner cyntaf am ddefnyddio ei benelin.

Yn fuan wedyn sgoriodd Jorge Grant i roi Notts County ar y blaen.

Sgoriodd Shola Ameobi un arall ar ôl 52 munud cyn i Grant rwydo gôl arall - ei nawfed y tymor hwn.

Pynciau Cysylltiedig