Buddugoliaeth ddadleuol i Anthony Joshua yng Nghaerdydd

Anthony Joshua Image copyright Getty

Mae Anthony Joshua wedi adennill pencampwriaethau pwysau trwm WBA a IBF y byd ar ôl curo Carlos Takam mewn 10 rownd yng Nghaerdydd.

Roedd 'na anfodlonrwydd ymhlith y dorf o 80,000 wrth i'r dyfarnwr atal yr ornest yn gynnar.

Cafodd Joshua drafferthion cynnar wrth iddo gael anaf i'w drwyn ar ôl gwrthdrawiad â phen Takam.

Ond fe gymerodd Joshua reolaeth o'r ornest yn y bedwaredd rownd wrth iddo lorio ei wrthwynebydd.

Image copyright Reuters

Penderfynodd y dyfarnwr atal yr ornest yn y 10fed rownd ond roedd Joshua, a'r dorf enfawr, yn rhywstredig â'r penderfyniad gan fod Takam yn parhau i frwydro yn styfnig.

Pynciau Cysylltiedig