Difa adar yn 'opsiwn olaf'
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

RSPB: Dylai difa bilidowcod fod yn 'opsiwn olaf'

31 Hydref 2017 Diweddarwyd 06:55 GMT

Dylai difa adar fod yn "opsiwn olaf" wrth geisio gwarchod poblogaethau pysgod, yn ôl elusen RSPB Cymru.

Daw eu sylw wrth i'r Ymddiriedolaeth Bysgota alw am saethu mwy o filidowcod er mwyn diogelu eog a sewin yn afonydd Cymru.

Ond yn ôl Daniel Jenkins Jones o RSPB Cymru, mae angen "tystiolaeth gref" o effaith yr ymddygiad yr adar ar niferoedd pysgod.