Canslo trenau rhwng Caerfyrddin a Llanelli achos difrod

tren
Image caption Gallai teithwyr wynebu oedi ar eu siwrnai

Mae trenau rhwng Caerfyrddin a Llanelli wedi eu canslo oherwydd bod trac wedi torri.

Dywedodd Trenau Arriva Cymru y dylai teithwyr osgoi unrhyw deithiau oedd ddim yn "hanfodol" yn dilyn y digwyddiad rhwng Glan-y-fferi a Chydweli yn Sir Gâr.

Yn ôl Network Rail fe wnaeth trên nwyddau achosi "difrod sylweddol" i'r trac ddydd Llun.

Mae disgwyl i'r trenau fod wedi eu canslo nes ddydd Mercher wrth i'r trac gael ei atgyweirio.

Yn y cyfamser fe fydd bysus yn rhedeg rhwng Caerfyrddin ac Abertawe gan alw ym Mhen-bre, Porth Tywyn a Llanelli.

Mae Network Rail yn dweud y dylai teithwyr adael 60 munud ychwanegol ar gyfer eu siwrnai.

Pynciau Cysylltiedig