Ymchwiliad i dân mewn tŷ gwag ym Mhen Llŷn
- Published
Mae'r awdurdodau'n ymchwilio wedi tân mewn tŷ gwag ym Mhen Llŷn fore Mawrth.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r tŷ ym Mynytho ger Pwllheli ychydig wedi 06:00.
Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, mae niwed "sylweddol" i'r adeilad "ynysig ac anghysbell", ond doedd neb yno ar y pryd.
"Mae Heddlu Gogledd Cymru yn cynnal ymchwiliad ar y cyd gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i ddarganfod achos y tân," meddai'r arolygydd ardal, Gethin Jones.
"Yn amlwg, bydd hwn yn cael ei gwblhau cyn gynted â phosib i leddfu unrhyw bryderon dealladwy yn y gymuned."
Ychwanegodd y dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu yn syth.