Cwest: Paragleidiwr wedi datod harnais ar ôl taro coeden

Michael Blanchard Image copyright Llun teulu

Mae cwest dyn wnaeth farw mewn damwain paragleidio yn Nepal wedi clywed ei fod wedi datod ei hun o'r harnais ar ôl iddo fynd yn sownd mewn coeden.

Roedd Michael Blanchard, oedd yn 67 ac o Bwllglas yn Sir Ddinbych, ar ddiwrnod cyntaf ei wyliau yn y wlad ym mis Ionawr eleni pan aeth i drafferthion.

Clywodd y cwest fod hyfforddwr a welodd Mr Blanchard yn taro'r goeden, a bod yntau wedi dweud ei fod yn iawn ar gyswllt radio.

Ond erbyn i'r hyfforddwr ei gyrraedd roedd Mr Blanchard yn anymwybodol, a bu farw'n ddiweddarach yn yr ysbyty.

Fe wnaeth y crwner gofnodi bod Mr Blanchard wedi marw drwy ddamwain.

Dringo i lawr

Clywodd y cwest yn Rhuthun bod Cymdeithas Paragleidio Prydain wedi cynnal ymchwiliad a darganfod fod yr amodau ar y diwrnod yn llonydd, a bod profion wedi dangos bod yr harnais yn cau yn gywir.

Eu casgliad oedd bod Mr Blanchard wedi datod ei harnais ac wedi ceisio dod i lawr o'r goeden ei hun.

Cafodd ei weld gan lygad dystion yn ceisio dringo i lawr ond yn disgyn pan wnaeth brigyn o'r goeden dorri.

Image copyright Getty Images
Image caption Digwyddodd y ddamwain yn ardal Pokhara yn Nepal

Mae'r gymdeithas wedi argymell bod angen atgoffa peilotiaid o beryglon disgyn, a phwysigrwydd clymu eu hunain i'r goeden wedi damwain.

Marwolaeth ddamweiniol oedd casgliad y crwner, Nicola Jones, a dywedodd fod Mr Blanchard wedi penderfynu datod ei hun o'r harnais a cheisio dod i lawr y goeden.

'Colled enfawr'

Dywedodd Tim Blanchard, brawd Mr Blanchard, ei fod yn tybio bod ei frawd wedi rhagweld y byddai'n gallu dod i lawr ar ben ei hun.

Ychwanegodd bod yr hyn ddigwyddodd yn profi ei bod hi'n bwysig gwrando ar gyngor hyfforddwyr.

Ychwanegodd bod marwolaeth ei frawd wedi bod yn "golled enfawr".

Straeon perthnasol