80 o swyddi newydd yng Nghaerffili

parc busnes Image copyright Google
Image caption Bydd y swyddi wedi'u lleoli ar barc busnes ger Caerffili

Mae cwmni sy'n rhan o'r frwydr yn erbyn masnachu nwyddau ffug wedi cyhoeddi y byddan nhw'n creu 80 o swyddi newydd yng Nghaerffili.

Bydd INCOPRO yn ehangu i swyddfeydd yn Britannia House yn y dref gyda chymorth buddsoddiad o £500,000 gan Lywodraeth Cymru.

Gwaith y cwmni yw diogelu 'brandiau' drwy ganfod a dilyn ffugwyr ar-lein cyn tynnu'r nwyddau ffug oddi ar y rhyngrwyd.

Mae nifer o gwmnïau ffasiwn ymhlith eu cleientiaid.

Mae 2.5% o fasnach y byd yn fasnach nwyddau ffug, ac mae rhai'n darogan y bydd gwerth economaidd hyn yn cyrraedd 2.3 triliwn doler erbyn 2022.

Dywedodd Simon Baggs, prif weithredwr y cwmni: "Rydym yn benderfynol o wneud y rhyngrwyd yn lle gwell i fusnesau ffynnu.

"Rhan bwysig o hyn yw llwyddo i gael gwared ar werthu cynnyrch a chynnwys anghyfreithlon. "

Pynciau Cysylltiedig