Y Bencampwriaeth: Caerdydd 3-1 Ipswich

Omar Bogle Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Omar Bogle yn dathlu sgorio ei gôl gyntaf i Gaerdydd

Mae Caerdydd wedi codi i'r ail safle yn y Bencampwriaeth yn dilyn buddugoliaeth yn erbyn Ipswich nos Fawrth.

Nid oedd yn rhaid i'r dorf o bron i 16,000 aros yn hir cyn i Gaerdydd rwydo drwy foli o droed Junior Hoilett ar ôl 12 munud.

Lai na munud wedi dechrau'r ail hanner, wedi chwarae da gan nifer o'r chwaraewyr, fe sgoriodd Omar Bogle ei gôl gyntaf i'r Adar Gleision.

Ar dro y 90 munud, yn annisgwyl fe sgoriodd Ipswich drwy Bersant Celina.

Ond ymateb unionsyth Caerdydd oedd rhwydo eto drwy Danny Ward.

Felly fe orffennodd y gêm yn 3-1 gyda Chaerdydd yn dringo uwchben Sheffield United wedi iddyn nhw golli yn erbyn QPR.