Scott Williams yng ngharfan Cymru wedi anaf Tyler Morgan

scott williams
Image caption Mae gan Scott Williams 48 cap

Mae Scott Williams wedi ei alw i ymuno â charfan rygbi Cymru yn dilyn anaf i Tyler Morgan.

Yn wreiddiol cafodd Williams ei adael allan o'r garfan ar gyfer gemau'r hydref gan Warren Gatland.

Ar ôl y siom o gael ei wrthod, cafodd Williams ganmoliaeth am ei berfformiad i'r Scarlets y penwythnos diwethaf wrth iddyn nhw guro Gleision Caerdydd.

Mae Morgan yn cael triniaeth i anaf i'w bigwrn.

Mae Cymru yn wynebu Awstralia, De Affrica, Georgia, a Seland Newydd ym mis Tachwedd.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol