Llysenwau'r Cymry

Yng Nghymru mae llysenwau'n cael eu defnyddio bron mor aml a chyfenwau.

Mae enw fferm, tŷ, pentref neu hyd yn oed gwaith rhywun yn cael eu defnyddio fel atodiad i'w henw cyntaf.

Mae Clare Davies wedi trydar detholiad o lyfr newydd Trevor Fishlock sy'n trafod hen lysenwau cymeriadau o Gymru.

Dyma i chi ambell i enghraifft:

  • Emlyn Kremlin - Dyma'r enw gafodd Emlyn Thomas, un o arweinwyr glowyr y Rhondda tua deg y chwyldro Comiwnyddol yn Rwsia. Roedd yn Farcsydd ac roedd yn gosod y faner Gomiwnyddol yn ffenestr ei gartref ar achlysuron pwysig.
  • Dai Drop - Mi gafodd yr enw yma ei roi i awyrfilwr (paratrooper) o Gymru oherwydd ei fod yn neidio o awyrennau yn rheolaidd yn rhinwedd ei swydd. Yn ddiweddarach cafodd y llysenw ei atgyfodi gan rai o gefnogwyr mwya sinigaidd pêl-droed Cymru a Wrecsam wrth gyfeirio at Dai Davies cyn-golgeidwad y tîm cenedlaethol.
  • Dai Bananas - Dyma lysenw gafodd David Maxwell Fyfe, cyn-Ysgrifennydd Cymru yn y 50au gan ei fod o'n rhannu cyfenw gyda'r cwmni ffrwythau enwog. Roedd rhai yn credu ei fod o'n gwbl 'bananas' am nad eodd ganddo fawr o ddiddordeb yng Nghymru a'i phobl er gwaethaf ei gyfrifoldebau yn llywodraeth Winston Churchill.

Ydych chi'n gwybod am lysenw addas neu ddoniol gafodd ei roi i ambell i gymeriad yn eich hardal chi? Cysylltwch efo cymrufyw@bbc.co.uk