Cymru i herio Georgia yng ngêm gyntaf Cwpan y Byd 2019

Image copyright AFP/Getty Images

Bydd Cymru'n herio Georgia yn eu gêm gyntaf yng Nghwpan Rygbi'r Byd 2019 yn Japan.

Fe fydd yr ornest yn cael ei chwarae yn Stadiwm Dinas Toyota ddydd Llun 23 Medi, yn dilyn penwythnos agoriadol y gystadleuaeth.

Cafodd trefn, lleoliadau ac amseroedd y gemau eu cyhoeddi ddydd Iau mewn digwyddiad yn Tokyo, union ddwy flynedd cyn y rownd derfynol.

Yn dilyn yr ornest gyntaf bydd Cymru hefyd yn wynebu Awstralia, Fiji, ac un ai Canada neu Uruguay yn eu gemau grŵp.

Bydd Canada ac Uruguay yn wynebu'i gilydd mewn gemau ail gyfle yn 2018 i benderfynu pa un ohonyn nhw fydd yn ennill eu lle yn y gystadleuaeth.

Dywedodd pwyllgor trefnu Cwpan y Byd y byddai tocynnau ar gyfer y gemau yn mynd ar werth ddechrau 2018.

Image copyright Reuters
Image caption Y grwpiau ar gyfer Cwpan y Byd 2019

Japan fydd yn agor y gystadleuaeth gyda gêm yn erbyn y tîm sydd yn dod drwy rowndiau rhagbrofol Ewrop, a hynny ddydd Gwener 20 Medi yn Tokyo.

Ar y penwythnos cyntaf fe fydd y pencampwyr byd, Seland Newydd yn wynebu De Affrica a bydd Ffrainc yn herio'r Ariannin.

Mae Iwerddon a'r Alban hefyd yn chwarae yn erbyn ei gilydd, tra bod Lloegr yn dechrau gyda gornest yn erbyn Tonga.

Trefn y gemau

Cymru v Georgia, 23 Medi, Toyota (11:15 GMT)

Awstralia v Cymru, 29 Medi, Tokyo (08:45 GMT)

Cymru v Fiji, 9 Hydref, Oita (10:45 GMT)

Cymru v Canada neu Uruguay, 13 Hydref, Kunamoto (09:15 GMT)

Pynciau Cysylltiedig