Gorky's yn y gerddorfa
- Published
Mae'n adnabyddus fel aelod o'r band poblogaidd Gorky's Zygotic Mynci ond rŵan mae un aelod yn ymuno efo Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.
Bydd Richard James yn perfformio ei ddarn cerddorfaol cyntaf erioed gyda'r gerddorfa ar 18 Tachwedd yng Nghanolfan Pontio, Bangor.
Ffurfiodd Gorky's yn y gorllewin yn 1991 a daeth eu sŵn seicedelig gwerinol i sylw cynulleidfa ehangach.
Fe gyrhaeddodd wyth o'u recordiau y 75 uchaf yn siartiau recordiau sengl y DU cyn i'r grŵp chwalu yn 2006.
Darnau gwreiddiol gan Richard wedi'u trefnu ar gyfer Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC fydd y rhan gyntaf, gyda Richard yn canu'r gitâr a'r piano.
Yn yr ail hanner, bydd premiere byd o'r gwaith gan Richard - cyfansoddiad o ddeg darn a phob un yn gysylltiedig ac yn plethu i'w gilydd, wedi'u hysgrifennu'n benodol ar gyfer y gerddorfa.
Dywedodd Richard: "Rwy'n hoffi'r profiad ynysig yn ogystal â'r profiad cydweithredol o greu cerddoriaeth, a phrosiectau cysyniadol mwy sy'n cynnwys sawl celfyddyd.
"Rwy'n hoffi'r broses o glymu un gweledigaeth wrth syniadau pobl eraill i greu rhywbeth sy'n fwy na'r un ohonom, sydd ar y diwedd, gobeithio, yn creu gwaith diddorol, cyffrous, angerddol ac atyniadol."
Mae'r gwaith wedi cael ei ysbrydoli a'i ddylanwadu gan dirweddau gwledig, trefol ac arfordirol de a gorllewin Cymru, ardal sy'n agos iawn at ei galon.
Bydd yr artist Angharad Van Rijswijk, a fu'n gweithio gyda Richard y llynedd ar ddarn celf sain ar gyfer rhaglen Late Junction ar BBC Radio 3 yn llunio dau ddarn o gelf sain gwreiddiol i gyd-fynd â'r gwaith.