Cyhoeddi arweinydd newydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Elizabeth Evans a Jane Dodds
Image caption Elizabeth Evans neu Jane Dodds fydd yr arweinydd newydd

Bydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn cyhoeddi pwy fydd eu harweinydd newydd ddydd Gwener yn dilyn pleidlais ymhlith aelodau.

Yr ymgeiswyr ar gyfer y rôl yw Elizabeth Evans a Jane Dodds.

Mae Ms Evans yn gynghorydd sir yng Ngheredigion, yn cynrychioli Aberaeron, ac mae hi hefyd wedi sefyll yn yr etholaeth fel ymgeisydd ar gyfer y Cynulliad.

Ms Dodds o'r Trallwng oedd ymgeisydd seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol ym Maldwyn yn ystod yr etholiad cyffredinol eleni.

Bydd yr arweinydd newydd yn olynu'r cyn-Aelod Seneddol Mark Williams, sydd wedi rhoi'r gorau i'r swydd ar ôl colli ei sedd yng Ngheredigion.

Yr Aelod Cynulliad Kirsty Williams sydd wedi arwain y blaid dros dro yng Nghymru yn dilyn ei ymddiswyddiad.

Bydd yr arweinydd newydd yn cael ei gyhoeddi fore Gwener ym Mae Caerdydd yn dilyn pum wythnos o ymgyrchu.

Pynciau Cysylltiedig