Bom o'r rhyfel wedi'i ganfod mewn camlas yn y gogledd

Marie Kirkman
Image caption Y gred yw bod y bom wedi dod o ffatri ger y gamlas oedd yn arfer gwneud arfau

Fe wnaeth dynes ganfod bom o'r Ail Ryfel Byd oedd heb ffrwydro mewn camlas yng ngogledd Cymru wrth bysgota gyda magnedau.

Fe wnaeth Marie Kirkman o'r Bala dynnu'r mortar allan o Fasn Trefor, ger camlas Llangollen.

Bu'n rhaid i arbenigwyr diffodd bomiau gau'r ffyrdd o amgylch ei chartref wedi iddi fynd a'r bom adref gyda hi, a hithau ddim yn ymwybodol ei bod â dyfais ffrwydrol yn ei meddiant.

"Roeddwn i'n meddwl mai fflasg oedd wedi rhydu oedd o," meddai Ms Kirkman wrth BBC Cymru.

Mae hi wedi bod yn defnyddio magnedau pwerus wedi'u cysylltu â rhaffau mewn ymdrech i ganfod metel sgrap mewn camlesi a dyfrffyrdd.

Image copyright Marie Kirkman
Image caption Roedd Marie Kirkman yn meddwl mai "fflasg oedd wedi rhydu" oedd y bom

Fe wnaeth hi dynnu'r ddyfais ffrwydrol o'r dŵr fis diwethaf, gan gymryd ei fod yn ddiniwed.

Ond ar ôl iddi sylweddoli y gallai fod yn beryglus, fe roddodd wybod i'r heddlu am ei darganfyddiad.

Daeth dau heddwas i'w chartref cyn galw tîm difa bomiau o Gaer, wnaeth gau'r ffyrdd o amgylch y tŷ i dynnu'r ddyfais oddi yno.

Y gred yw bod y bom wedi dod o ffatri ger y gamlas oedd yn gwneud arfau yn ystod y rhyfel.

Image caption Mae pobl yn defnyddio'r magnedau pwerus mewn ymdrech i ganfod metel sgrap

Dywedodd Ms Kirkman bod y math yma o 'bysgota' yn ffordd dda o ailgylchu a gwneud arian o'r hyn sy'n cael ei ddarganfod.

Mae hi'n gwerthu'r rhan fwyaf o'r eitemau y mae hi'n ei ddarganfod i gwmnïau metel sgrap.

"Mae'n codi ofn ar rywun i glywed y gall pethau fel yna bod yn ein camlesi," meddai.

Ychwanegodd ei bod "ychydig yn nerfus" am ailddechrau pysgota gyda magnedau, ond y bydd hi'n sicr o roi gwybod i'r heddlu am unrhyw ganfyddiadau tebyg yn y dyfodol.

Pynciau Cysylltiedig