Dim Cymraeg ar gofeb Dolgarrog yn 'gamgymeriad'
- Published
Mae cadeirydd Cyngor Cymuned Dolgarrog wedi cyfaddef ei fod wedi gwneud camgymeriad trwy beidio â chynnwys y Gymraeg ar gofeb newydd.
Mae gardd goffa wedi cael ei hadnewyddu i gofio am yr 16 o bobl fu farw wedi i argae ddymchwel yn dilyn glaw trwm dros 90 mlynedd yn ôl
Roedd chwe phlentyn ymhlith y meirw pan lifodd y dŵr drwy'r pentref ym mis Tachwedd 1925.
Ddydd Iau cafodd cofeb ei dadorchuddio yn y ganolfan gymunedol i gofio am y trychineb.
Ond fe wnaeth aelodau'r cyhoedd fynegi eu siom ar wefannau cymdeithasol bod y gofeb yn un uniaith Saesneg.
Ble mae'r Gymraeg ar yr arwyddion? Dolgarrog bron yn uniaith Gymraeg adeg hynny
— Busnes Da (@BusnesDa) November 2, 2017
Pam fod y geiriau ar y garreg newydd yn yr ardd goffa yn Nolgarrog yn Saesneg?
— Rhys Morgan Llwyd (@moelwnion) November 2, 2017
Roedd y gymuned wedi derbyn £22,000 mewn grantiau i adnewyddu'r ardd goffa a chreu'r gofeb.
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Williams wrth raglen Taro'r Post BBC Radio Cymru ei fod wedi derbyn ebyst yn gofyn pam nad oedd y Gymraeg wedi'i chynnwys ar y gofeb.
Ychwanegodd ei fod yn mynd i'r afael â hynny ac y byddai'n sicrhau bod y gofeb yn cael ei newid "cyn gynted â phosib".
"Mae'n rhaid i mi gymryd y bai am hyn," meddai Mr Williams wrth y rhaglen.
"Fe wnes i gael contractwr i wneud y gwaith ac yr hyn ddywedais wrtho oedd i newid popeth yn ôl fel yr oedd o'r blaen.
"Ar ôl iddi gael ei chwblhau fe wnes i sylweddoli nad oedd o yn y Gymraeg.
"'Da ni wedi talu dros £1,000 am y garreg, ond 'da ni yn bwriadu ei newid o i wneud rhywbeth yn y Gymraeg rŵan."
Ychwanegodd nad oes penderfyniad wedi'i wneud ar sut y bydd y Gymraeg yn cael ei chynnwys, ac fe gyfaddefodd efallai y bydd yn rhaid tynnu'r gofeb bresennol a thalu am greu un newydd i'w rhoi yn ei lle.
Pynciau Cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Published
- 2 Tachwedd 2017