Pro14: Scarlets 20-8 Benetton

Dan Jones Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Dan Jones yn sgorio cais i'r Scarlets

Fe wnaeth Dan Jones arwain y Scarlets i fuddugoliaeth yn erbyn Benetton ar Barc y Scarlets.

Gyda Rhys Patchell ar ddyletswydd ryngwladol gyda Chymru, fe wnaeth y maswr y mwyaf o'i gyfle gan sgorio 15 o 20 pwynt y Scarlets, sy'n aros ar frig Adran B y Pro14.

Fe sgoriodd y cais agoriadol gyda ffug symudiad, cyn i'w gic isel yn yr ail hanner roi cyfle i Scott Williams groesi'r llinell.

Ian McKinley, gyda chais a chic gosb, sgoriodd bwyntiau Benetton.

Pynciau Cysylltiedig