Pro14: Munster 49-6 Dreigiau

Dragons' Angus O'Brien is tackled by JJ Hanrahan of Munster Image copyright Inpho

Fe wnaeth Munster sgorio saith cais wrth chwalu'r Dreigiau, gyda JJ Hanrahan yn ychwanegu 14 pwynt o'i esgid.

Roedd hi'n 14-3 ar yr hanner ar ôl i Rory Scannell a Simon Zebo, groesi gyda chais yr un i Jack O'Donoghue a Darren Sweetnam yn sichau pwynt bonws o fewn awr o chwarae.

Fe groesodd yr eilydd Sam Arnold dwywaith yn y chwarter olaf, gyda Kevin O'Byrne yn croesi yn hwyr yn y gêm.

Daeth unig bwyntiau'r Dreigiau o giciau Angus O'Brien.