Beiciwr modur yn marw wedi gwrthdrawiad

Police at the scene of the crash Image copyright Twitter/@SWPSwansea
Image caption Plsimyn yn cael eu galw i'r ddamwain toc cyn 16:00 ddydd Gwener

Mae beiciwr modur wedi marw wedi gwrthdrawiad â char yn Abertawe.

Dywedodd Heddlu'r De bod y dyn 26 oed wedi marw ar yr A4067 wedi gwrthdrawiad â Fiat Punto a oedd yn teithio i'r cyfeiriad arall.

Fe achosodd y digwyddiad dagfeydd traffig i'r ddau gyfeiriad ar yr M4 ac mae'r heddlu yn diolch i yrwyr am eu hamynedd.

Mae galw ar unrhyw un a welodd y ddamwain neu'r beic modur cyn y ddamwain i gysylltu â'r heddlu.