Y Bencampwriaeth: Bristol City 2-1 Caerdydd

Aden Flint yn sgorio Image copyright PA
Image caption Aden Flint yn sicrhau buddugoliaeth i Bristol City

Methodd Caerdydd y cyfle i aros gyda Wolves ar frig y Bencampwriaeth ar ôl colli oddi cartref yn y ddarbi yn erbyn Bristol City.

Wnaeth y gêm ddim dechrau'n rhy dda i'r Adar Gleision, wrth i Nathaniel Mendez-Laing gael anaf un y munudau cyntaf.

Ar ôl 20 munud roedd Bristol City ar y blaen, gyda Callum O'Dowda yn sgorio i'r tîm cartref gydag ergyd droed chwith rymus o ganol y blwch cosbi.

Roedd hi'n gyfartal erbyn yr egwyl, gydag Omar Bogle yn canfod cefn y rhwyd wedi i ergyd Junior Hoilett gael ei rwystro.

Ond ar ôl 55 munud cafwyd tacl hwyr iawn ar Marlon Pack gan Bogle, a chanlyniad hynny oedd cerdyn coch i sgoriwr gôl Caerdydd.

Daeth y gôl hanfodol i Bristol City ddeng munud yn ddiweddarach gyda pheniad grymus yr amddiffynnwr Aden Flint.

Methodd 10 dyn Caerdydd â chanfod gôl arall, ac mae'r canlyniad yn golygu fod Bristol City bellach un pwynt y tu ôl iddyn nhw yn y Bencampwriaeth.

Pynciau Cysylltiedig