Uwch Gynghrair: Abertawe 0-1 Brighton

Brighton Image copyright Getty Images
Image caption Brighton oedd yn dathlu ddydd Sadwrn

Mae Abertawe wedi disgyn i'r tri isaf yn nhabl yr Uwch Gynghrair ar ôl colli gartref yn erbyn Brighton.

Ar ôl hanner awr cafodd y bêl ei chwipio mewn i'r cwrt cosbi o'r ochr chwith gan Anthony Knockaert, ac yno i wthio'r bêl i'r rhwyd roedd Glenn Murray.

Yn yr ail hanner doedd Abertawe yr un tîm o gwbl, gyda mwy o fin ar eu chwarae a pharodrwydd i ymosod o bob cyfeiriad.

Ond er gwaethaf hynny prin oedd y cyfleoedd clir, ac roedd rhwystredigaeth y dorf yn amlwg erbyn y chwiban olaf.

Pynciau Cysylltiedig