Cwpan FA Lloegr: Casnewydd 2-1 Walsall

Casnewydd Image copyright Huw Evans picture agency

Mae Casnewydd drwyddo i ail rownd Cwpan FA Lloegr yn dilyn buddugoliaeth yn erbyn Walsall.

Roedd hi'n gêm fywiog o'r gic gyntaf ar Rodney Parade, ac fe aeth y tîm cartref ar y blaen diolch i gôl Frank Nouble ar ôl 18 munud.

Cafodd y fantais ei dyblu o fewn munud i'r ail hanner, gydag ergyd Shawn McCoulsky o ochr dde'r cwrt cosbi yn canfod cornel chwith y gôl.

Wedi 77 munud daeth gôl i Walsall drwy beniad Amadou Bakayoko.

Ond daliodd Casnewydd ymlaen i sicrhau eu lle yn y rownd nesaf, a hynny ar draul tîm sydd adran yn uwch na nhw.

Pynciau Cysylltiedig