Pro14: Gleision 37-8 Zebre

Matthew Rees Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Matthew Rees yn sgorio cais ar ddechrau'r ail hanner

Mae'r Gleision wedi dringo uwchben Zebre yn Adran A y Pro14 yn dilyn buddugoliaeth gyfforddus ar Barc yr Arfau.

Roedd hon yn gêm bwysig i'r tîm cartref, ac fe ddechreuon nhw'n llawn brwdfrydedd gyda chais buan gan Lloyd Williams.

Fe wnaeth cic gosb sicrhau tri phwynt i'r Eidalwyr, ond o fewn dim fe groesodd Willis Halaholo am gais arall i'r Gleision - ei bedwaredd y tymor hwn.

Llwyddodd Steve Shingler gyda'r trosiad, yn ogystal â dwy gic gosb, i ddod â'r sgôr i 18-3 erbyn hanner amser.

Wedi awr o chwarae roedd gan y Gleision eu pwynt bonws yn dilyn ceisiau pellach gan Matthew Rees a Matthew Morgan, cyn i Tom James ychwanegu un arall.

Ond er bod hi'n amlwg mai'r Gleision fyddai'n ennill doedd yr Eidalwyr ddim wedi digalonni'n llwyr, ac fe lwyddodd Guglielmo Palazzani i sgorio cais cyn diwedd y gêm.

Pynciau Cysylltiedig