Teyrnged i feiciwr wedi gwrthdrawiad yn Abertawe

Stephen Coombs Image copyright Llun teulu

Mae teulu dyn 26 oed gafodd ei ladd wedi i'w feic modur daro yn erbyn car yn Abertawe wedi dweud eu bod yn "gwbl dorcalonnus".

Bu farw Stephen Coombs o Bontardawe wedi i'w feic daro car Fiat Punto a oedd yn teithio i'r cyfeiriad arall ar yr A4067 ddydd Gwener.

Mae ei deulu wedi'i ddisgrifio fel "dyn ifanc arbennig" ac yn dweud bod ei farwolaeth wedi "gadael bwlch mawr yn eu bywyd".

Mae'r heddlu wedi apelio am dystion.

Image copyright Heddlu De Cymru
Image caption Cafodd yr heddlu eu galw i'r gwrthdrawiad toc cyn 16:00 ddydd Gwener

Mewn datganiad dywedodd y teulu fod Mr Coombs yn "fab, brawd, ŵyr, partner a ffrind arbennig i lawer".

"Cafodd effaith fawr ar fywydau pobl ac ato ef yr oedd pobl yn troi os oedd yna broblem neu os oedden nhw angen cymorth.

"Roedd e'n ddyn cariadus ac yn barod iawn i ddweud cymaint oedd pobl eraill yn ei olygu iddo."

Pynciau Cysylltiedig