Cwpan Rygbi 13 y Byd: Fiji 72-6 Cymru

Cais Fiji Image copyright Getty Images
Image caption Cais cyntaf Fiji yn erbyn Cymru

Mae tîm rygbi 13 Cymru wedi cael crasfa arall yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd yn hemisffer y de.

Mae eu gobeithion o gyrraedd y chwarteri bellach ar ben wrth i Fiji sgorio 14 cais - wyth o'r rheiny cyn hanner amser.

Roedd 'na un cais i Gymru wedi 10 munud wrth i Morgan Knowles groesi'r llinell ar ddiwrnod ei ben-blwydd yn 21 oed.

Dyma'r sgôr mwyaf erioed i Fiji yn erbyn Cymru, a nesaf fe fydd y tîm o ynysoedd y Môr Tawel wynebu'r Eidal er mwyn ceisio sicrhau eu safle ar frig Grŵp D.

Bydd chwaraewyr Cymru nawr yn teithio i Perth i wynebu Iwerddon yn y gêm olaf - fe gollodd y Gwyddelod o 14-6 yn erbyn Papua Guinea Newydd.

Wythnos diwethaf cafodd Cymru eu chwalu yn eu gêm gyntaf yn erbyn Papua Guinea Newydd.

Dyw Cymru ddim wedi ennill gêm yng Nghwpan Rygbi'r Byd ers 2000.

Pynciau Cysylltiedig