Heddlu Gwent yn chwilio am yrrwr

Car in hedge Image copyright @gpasuwest

Mae Heddlu Gwent yn chwilio am yrrwr a adawodd ei gerbyd wedi'i barcio mewn ffordd tra gwahanol ddydd Sadwrn.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol mae plismyn wedi cyhoeddi llun o'r car a adawyd mewn clawdd ym Machen ger Caerffili.

Hyd yma dyw gyrrwr y car ddim wedi cysylltu â'r heddlu.