Tri yn yr ysbyty yn dilyn tân mewn tŷ yng Nghaerdydd

ty wedi llosgi
Image caption Bu pedair injan dân yn ceisio diffodd y tân am awr

Mae tri o bobl yn cael triniaeth yn yr ysbyty am effaith anadlu mwg yn dilyn tân mewn tŷ yng Nghaerdydd.

Cafodd y gwasanaethau tân eu galw i'r tŷ ar Ffordd y Gogledd yn y brifddinas toc cyn 05:00 fore Sul.

Erbyn i'r gwasanaethau gyrraedd roedd llawr cyntaf y tŷ yn wenfflam ac fe gymerodd hi awr i bedair injan ddiffodd y tân.

Cafodd ci'r teulu ei ladd yn y digwyddiad.

Mae ymchwiliad i'r tân ar y gweill.

Image caption Roedd y llawr cyntaf yn wenfflam erbyn i'r gwasanaethau gyrraedd

Pynciau Cysylltiedig