Dim ffydd mewn dau gartref preswyl plant ym Mhen-y-bont
- Published
Mae plant sydd mewn gofal ym Mhen-y-bont yn cael eu lleoli filltiroedd o'u cartrefi am nad yw'r llysoedd yn ymddiried yng nghartrefi'r cyngor, yn ôl adroddiad newydd.
Mae'r cyngor yn adolygu'r ddarpariaeth mewn dau gartref preswyl i blant, sef Sunnybank a Newbridge House.
Mae staff yn dweud bod nifer uchel o blant yn cael eu rhoi mewn cartrefi y tu allan i'r sir am nad oes gan y llysoedd ymddiriedaeth yn y gwasanaeth.
Mae cais wedi cael ei wneud i Gyngor Pen-y-bont am ymateb.
Yn gynharach eleni fe rybuddiodd adroddiad arall y gallai plant mewn gofal fod mewn peryg o gael eu hecsbloetio'n rhywiol gan fod y cartrefi wedi eu lleoli mewn ardaloedd lle mae difrod troseddol, bygythiadau i ladd, a cham-drin plant wedi digwydd.
Mae'r adroddiad gan gyfarwyddwr corfforaethol gwasanaethau cymdeithasol a lles yn edrych ar y sefyllfa bresennol cyn i newidiadau gael eu gwneud i'r gwasanaeth.
Costio'n ddrud i'r sir
Ar gyfartaledd, mae mwy na 10 plentyn o Ben-y-bont yn cael gofal y tu allan i'r sir ac y mae hynny yn costio £160,000 y flwyddyn i'r sir am bob plentyn.
Ymhlith pryderon eraill mae:
- Diffyg dewis;
- Dim cartrefi amgen ar gyfer plant sydd ag anghenion cymhleth;
- Dim digon o gyfleusterau i helpu pobl ifanc i symud o ofal ac felly mae plant yn aros am gyfnod "hirach na sydd yn rhaid" mewn cartrefi;
- Dim gwelyau ar gyfer achosion brys;
- Cynllun y cartrefi - dy'n nhw ddim yn annog "amgylchedd bositif".
Yn rhan o'r newidiadau yn y ddarpariaeth, mae'r adroddiad yn awgrymu agor uned a fydd yn cynnwys gwelyau brys yn Newbridge House ac uned pedwar gwely dros dro yn Sunnybank.
Byddai'r newidiadau hefyd yn cynnwys creu tîm newydd i ddelio gyda'r galw cynyddol am wasanaethau therapiwtig.
Bydd yr adroddiad yn cael ei drafod gan gynghorwyr ddydd Llun cyn i'r cynllun newydd gael ei gyflwyno gerbron cabinet y cyngor ar gyfer sêl bendith.