Jonny Williams allan o gemau Ffrainc a Panama

Jonny Williams Image copyright Rex Features
Image caption Ar hyn o bryd mae Jonny Williams ar fenthyg yn Sunderland o Crystal Palace

Jonathan Williams yw'r chwaraewr diweddaraf i dynnu nôl o garfan bêl-droed Cymru ar gyfer y gemau cyfeillgar yn erbyn Ffrainc a Panama.

Bydd Ryan Hedges o Barnsley yn cymryd lle'r chwaraewr canol cae, sydd ag 17 cap dros ei wlad.

Mae Gareth Bale, Hal Robson-Kanu ac Emyr Huws eisoes wedi gorfod tynnu nôl gydag anafiadau.

Lloyd Isgrove a Tom Bradshaw o Barnsley a chwaraewr canol cae Wigan, Lee Evans, sydd wedi eu galw i'r garfan yn eu lle.

Bydd tîm Chris Coleman yn wynebu Ffrainc ym Mharis nos Wener, cyn croesawu Panama i Gaerdydd nos Fawrth.

Mae'n bosib o hyd mai dyma fydd gemau olaf Coleman wrth y llyw, wedi i'r rheolwr ddweud yr wythnos diwethaf nad yw'n siŵr eto a fydd yn arwyddo cytundeb newydd ai peidio.

Y garfan yn llawn:

Golwyr: Wayne Hennessey (Crystal Palace), Danny Ward (Lerpwl), Chris Maxwell (Preston North End);

Amddiffynwyr: Ashley Williams (Everton), James Chester (Aston Villa), Ben Davies (Tottenham Hotspur), Ethan Ampadu (Chelsea), Chris Gunter (Reading), Neil Taylor (Aston Villa), Tom Lockyer (Bristol Rovers);

Canol cae: Aaron Ramsey (Arsenal), Joe Allen (Stoke City), Andy King (Caerlŷr), Joe Ledley (Derby County), Dave Edwards (Reading), Lee Evans (Wigan Athletic, ar fenthyg o Wolverhampton Wanderers), Ryan Hedges (Barnsley);

Ymosodwyr: Tom Lawrence (Derby County), David Brooks (Sheffield United), Ben Woodburn (Lerpwl), Sam Vokes (Burnley), Lloyd Isgrove (Barnsley), Tom Bradshaw (Barnsley), Marley Watkins (Norwich City).