Rhondda a'r Gymraeg

Pen-blwydd hapus i Menter Iaith Rhondda Cynon Taf yn 25! Bydd noson arbennig yn cael ei chynnal yn yr ardal i nodi'r garreg filltir ar 10 Tachwedd.

Yn ôl Cyfrifiad 2011, mae bron i 28,000 o bobl yn medru'r Gymraeg yn y sîr - uwch o ran niferoedd na siroedd Abertawe, Powys a sir Ddinbych.

Bu Cymru Fyw yn siarad gyda'r cartwnydd Siôn Tomos Owen, o Dreorci, gan ofyn iddo os yw'n obeithiol y bydd y ffigwr yna'n tyfu?

Image copyright S4C
Image caption Mae Siôn yn adnabyddus i wylwyr S4C am ei gyfres Pobol y Rhondda

Dwi ddim yn un sy'n arferol am yr ardal - o'dd Mam yn dod o'r gogledd ac o'n i'n siarad Cymraeg yn y tŷ.

Dim ond un arall yn y dosbarth ysgol gynradd o'dd yn siarad Cymraeg adre'.

O'dd Cymraeg hi yn wahanol i fi achos oedd Mam hi'n dod o'r Rhondda felly oedd acen hi'n wreiddiol ac un fi yn cawl o 'gog' a fan hyn!

Pan o'n i'n ysgol o'dd siarad Saesneg yn wael ond o'dd bratiaith yn wael hefyd.

Ma' rhan o fi'n meddwl ma' Cymraeg pur yn grêt ond mae bratiaith yn iawn - os oes 'chydig o Gymraeg yn cael ei siarad, wel mae hwnna'n beth da.

Fi newydd weld hen ffrind ysgol ac mae bron pob un sy' ddim yn siarad Cymraeg nawr yn achwyn am beidio gallu.

Ond mae lot dal yn gweld e fel iaith addysg. Maen nhw'n teimlo bod nhwn siarad 'da athro, ofn slipo lan a dweud y peth anghywir.

Pan nes i ddechre [gweithio] nôl yn yr ysgol oedd yr iaith yn gwbl wahanol i beth o'n i wedi bod yn siarad bob dydd yn y brifysgol a gyda ffrindie.

O'n i'n dechre gweld wedyn pam fod pobl yn gweld e'n rhywbeth anodd - oedden nhw bron ddim yn gwybod sut i siarad gyda nhw.

Dwi'n meddwl bod pobl ddim yn gwybod bod cymaint o Gymraeg yn y cymoedd.

Ond [ers gwneud y gyfres deledu] mae 'na rhai pobl o'n i ddim yn gwbod oedd yn siarad Cymraeg.

Mae 'na bobl o'n i'n arfer siarad Saesneg gyda nhw ble fi nawr yn siarad Cymraeg 'da nhw - sy'n brilliant.

Mae 'na rhai pobl erbyn hyn yn gweld fi ac yn switcho i'r Gymraeg ar bwrpas i ddangos bod nhw'n gallu siarad Cymraeg - mae wedi digwydd cwpl o weithie.

Image copyright S4C

Ma' lot o bobl oed fi nawr yn danfon plant nhw i ysgol Gymraeg ond dydyn nhw ddim yn siarad Cymraeg gyda nhw adre.

Fi'n trio dweud bod dim ots 'neud camgymeriade - chi wedi gadel addysg nawr, does neb yn mynd i roi stŵr i chi!

Does 'da fi ddim byd yn erbyn Cymraeg cywir ond does gen i ddim ots baglu dros ambell beth.

Ma' angen normaleiddio fe. Oedd Pam Fi Duw? yn dangos shwt oedd plant yn siarad ac oedd pobl yn gwylio fe ac uniaethu gyda fe. Mae pobl dal yn siarad am fe nawr.

Ma' pethe fel Hansh a stwff fel 'na yn grêt achos dyw'r Gymraeg yna ddim yn Gymraeg addysg - mae e'n iaith mae pobl yn siarad trwy'r amser a mae hwnna'n really helpu.

Chi'n cerdded ar y stryd fawr yn Treorci a chi'n clywed Cymraeg yn cael ei siarad.

Mae mwy yn dysgu'r iaith a fi jest yn gobeithio bydd mwy yn siarad e.

'Wy'n siarad Cymraeg gyda fy merch i'n naturiol -'wy ddim yn neud e achos bo' fi isie cadw'r iaith yn fyw neu achos rhywbeth political, dyna be fi'n dewis siarad 'da hi.

Fi'n gweld llai o'r pobl ifanc yn 'neud hwyl am ben pobl sy'n siarad Cymraeg nawr.

Pan o'n i'n ysgol o'n i'n cael hell of a time off rhai o'r plant yn galw chi'n Welsh cakes neu be' bynnag.

Maen nhw'n gweld e nawr fel peth da - mae 'na brwdfrydedd yn y pobl ifanc.