Claude Makelele yn gadael fel is-hyfforddwr Abertawe

Claude Makelele Image copyright Getty Images
Image caption Cafodd Claude Makelele ei benodi gan Paul Clement ym mis Ionawr

Mae Claude Makelele wedi gadael ei rôl fel is-hyfforddwr Clwb Pêl-droed Abertawe er mwyn rheoli KAS Eupen yng Ngwlad Belg.

Roedd prif hyfforddwr Abertawe, Paul Clement, wedi penodi cyn-chwaraewr Real Madrid a Chelsea ym mis Ionawr, ar ôl i'r ddau weithio gyda'i gilydd yn Paris St-Germain.

Hon fydd ail swydd reoli Makelele, ar ôl iddo fod yn rheolwr Bastia yn Ffrainc yn 2014.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Yr Elyrch: "Hoffai bawb yng Nghlwb Pêl-droed Abertawe ddiolch i Claude am ei gyfraniad i'r clwb, ac rydym yn dymuno'n dda iddo yn ei yrfa."