Casnewydd i wynebu Caergrawnt yng nghwpan FA Lloegr
- Published
image copyrightHuw Evans picture agency
Yn dilyn buddugoliaeth dros Walsall yn y rownd gyntaf, mae Casnewydd wedi sicrhau gêm gartref yn erbyn Caergrawnt yn ail rownd Cwpan FA LLoegr.
Roedd tîm Mike Flynn yn fuddugol o 2 - 1 ar Rodney Parade ddydd Sadwrn diolch i goliau gan Frank Nouble ac Shawn McCoulsky.
Mae Caergrawnt a Chasnewydd yn cystadlu yn Ail Adran Cynghrair Pêl-droed Lloegr.
Gyda'r gêm gwpan i'w chynnal ar benwythnos cyntaf fis Rhagfyr, fe fydd y ddau dîm yn wynebu ei gilydd eto o fewn pythefnos, ond y tro hwn yn y gynghrair ar faes Caergrawnt.
Bydd Abertawe a Chaerdydd yn ymuno a'r gystadleuaeth yn y drydedd rownd.
Straeon perthnasol
- Published
- 4 Tachwedd 2017