Carl Sargeant wedi ei ddarganfod yn farw
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Vaughan Roderick: Carl Sargeant yn 'ffigwr o bwys mawr'

7 Tachwedd 2017 Diweddarwyd 15:03 GMT

Mae llefarydd ar ran teulu cyn-weinidog Llywodraeth Cymru, Carl Sargeant wedi cyhoeddi ei fod wedi marw yn 49 oed.

Mae BBC Cymru yn deall ei fod wedi lladd ei hun.

Yr wythnos diwethaf fe gollodd ei swydd yn y cabinet fel Gweinidog Cymunedau a Phlant, a dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones ei fod "mewn sioc ac yn drist iawn am ei farwolaeth".

Golygydd Materion Cymreig y BBC, Vaughan Roderick fu'n taro golwg ar ychydig o'i hanes a'r datblygiadau diweddar ble gadawodd y cabinet.