Bygwth symud 70 o swyddi gweinyddol Tata o Bort Talbot

Port Talbot
Image caption Mae Tata Steel yn cyflogi miloedd ym Mhort Talbot

Gallai 70 o swyddi yng ngwaith dur Tata ym Mhort Talbot gael eu symud i India.

Mae'r cwmni'n dweud eu bod wrthi'n "ymgynghori" am "symud tasgau gweinyddol, fel prosesu anfonebau a mewnbynnu data" i gwmni allanol.

Daw hyn ddeuddydd yn unig wedi i Tata ddweud y byddan nhw'n buddsoddi £30m i osod offer newydd ac uwchraddio rhannau o'u safle ym Mhort Talbot.

Roedd 'na amheuon hirdymor am ddyfodol y safle, gyda'r cwmni o India'n dweud ar un cyfnod eu bod am werthu eu holl fusnes yn y DU.

Ond nawr mae cwmni Almaenig Thyssenkrupp yn edrych i uno gyda Tata, sy'n gam i "adeiladu dyfodol" yn Ewrop yn ôl y cwmni.

Pynciau Cysylltiedig