Casnewydd 1-1 Port Vale

casnewydd Image copyright Huw Evans picture agency

Mae Casnewydd wedi colli cyfle i ddringo i safle'r gemau ail gyfle yng Nghynghrair Dau nos Wener, ar ôl ildio gôl hwyr i Port Vale.

Sgoriodd Matty Dolan, canol caewr Casnewydd, ar ôl 54 munud, cyn i'r eilydd, Anton Forrester sgorio i'r ymwelwyr gyda 10 munud o'r amser chwarae yn ennill.

Er i'r ddau dîm bwyso am gôl fuddugol, roedd yn rhaid i'r naill fodloni ar un pwynt yn unig.

Mae tîm Mike Flynn yn aros yn yr wythfed safle, tra bod Port Vale yn yr 20fed safle yn y gyngrair.

Pynciau Cysylltiedig