Euro Dan-21: Cymru 0-0 Romania

Image copyright FAW
Image caption Cafodd Harry Wilson gyfnod bygythiol

Cymru Dan-21 0-0 Romania Dan-21

Gyda Romania ar frig Grŵp 8 yn rowndiau rhagbrofol pencampwriaeth Euro Dan-21 2019, fe fyddai gêm gyfartal yn gallu cael ei hystyried yn ganlyniad da i dîm ifanc Robert Page.

Ond y gwir amdani yw bod Cymru wedi colli cyfle gan fod yr ymwelwyr i lawr i NAW dyn am gyfnod o'r ail hanner.

Fe ddechreuodd Cymru'n dda gyda Harry Wilson yn dod yn agos yn y munudau cynnar a Tyler Roberts yn fygythiad cyson i amddiffyn Romania.

Yn raddol fe ddaeth yr ymwelwyr yn gryfach, gan fwynhau mwyafrif y meddiant am gyfnodau hir yn yr hanner cyntaf.

Er i Gymru hefyd ddechrau'r ail hanner yn dda, roedd Romania yn fygythiol yn gwrthymosod, ond yna daeth newid dramatig.

Dau gerdyn coch

Roedd Razvan Marin eisoes wedi gweld cerdyn melyn pan redodd i gwrt cosbi Cymru a thaflu ei hun i'r llawr er mwyn ceisio cael cic o'r smotyn.

Roedd y dyfarnwr yn llygad ei le yn dangos ail gerdyn melyn - ac felly un coch - i Marin wedi 72 munud.

Gwaethygu wnaeth hi i'r ymwelwyr o fewn naw munud. Fe gafodd George Puscas ei dynnu nôl gan Jack Evans, a welodd gerdyn melyn am y drosedd, ond doedd dim esgusodi penelin bwriadol i ben Evans.

Gadawodd Puscas y cau gyda naw munud ac amser ychwanegol yn weddill.

Ond er cyfnod o bwyso, methu â datgloi amddiffyn yr ymwelwyr fu hanes Cymru.

Maen nhw'n bedwerydd yn y grŵp ar saith pwynt, ac mae'n ymddangos yn dalcen caled iddyn nhw gyrraedd y rowndiau terfynol.