Y myfyriwr Cymreig mewn lleiafrif

xx Image copyright Aled Russell

Does dim amheuaeth ei fod o'n bwnc llosg a bod goblygiadau Brexit yn achosi ansicrwydd mawr i fusnesau ac unigolion ar hyd a lled Cymru. Ond beth ydy'r sefyllfa yn y prifysgolion?

Mae Aled Russell, o'r Wyddgrug, yn fyfyriwr Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Roedd o ymhlith y mwyafrif bleidleisiodd o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd ond mae o'n poeni nad ydy'r farn honno yn cael ei hadlewyrchu yn ei ddarlithoedd.


Ro'n i ymhlith 56% o bobl Sir y Fflint bleidleisiodd i adael yr Undeb Ewropeaidd. Fel rhyddfrydwr clasurol, dwi'n gefnogwr brwd o fasnach rydd rhwng gwledydd.

Dwi'n cydnabod a pharchu'r ddadl fod Cymru yn derbyn mwy o arian na sydd yn cael ei roi i'r Undeb Ewropeaidd, £70 y pen i bawb yng Nghymru.

Oherwydd hyn a phwysau cyfoedion ro'n i'n teimlo bod rhyw fath o orfodaeth gudd i mi bleidleisio i Aros.

Dwi'n teimlo hefyd fod gorfodaeth gudd i mi gyfiawnhau fy mhleidlais dro ar ôl tro, rhywbeth dwi fel arfer yn ddigon hapus i'w wneud, ond rhywbeth dwi'n teimlo erbyn hyn dwi'n gorfod ei wneud.

Lleiafrif yn y cylchoedd Cymraeg

Dwi'n credu fod hyn yn deillio o ragfarn. Mae Cymru yn ddibynnol ar wasg sy'n edrych ar eu gwlad drwy chwyddwydr Prydeinig.

Roedd 'na ddiffyg gwybodaeth am oblygiadau Brexit i Gymru yn ogystal â'r cyfleoedd newydd, felly ges i fy nal rhwng y wasg Gymreig lipa a chyfeillion pro Ewrop cryf.

Roedd rhaid i mi wneud lot o ymchwilio i ystadegau a gwahanol farnau am y sefyllfa cyn pleidleisio. Mi wnes fy mhenderfyniad terfynol fis cyn y refferendwm.

Mewn cylchoedd Cymraeg, dydy o ddim yn fy synnu fy mod yn teimlo mewn mwy fyth o leiafrif.

Mae dadansoddiad gan dîm o Brifysgolion Caerdydd a Chaeredin yn y British Election Survey yn datgelu mai dim ond 16% o siaradwyr Cymraeg rhugl, ac sy'n teimlo'n Gymry cryf, bleidleisiodd i adael yr UE. Prin ydw i'n teimlo fel un o 52%, heb sôn am un o 16%.

Image copyright Aled Russell
Image caption Mae Aled yn teimlo ei fod o mewn lleiafrif ym Mhrifysgol Caerdydd

Dwi'n teimlo bod y pres sy'n cael ei anfon o'r DU i Ewrop - tua £250m yr wythnos - yn ddiangen a buaswn i yn hoffi gweld y math yna o arian yn cael ei fuddsoddi mewn mentrau Prydeinig.

Dwi hefyd yn teimlo fod bod yn rhan o floc masnachu'r UE wedi amharu ar ein masnach gyda gwledydd y Gymanwlad fel India, Canada, Awstralia a'r Unol Daliaethau. Mae hefyd yn rhwystr i'r DU fasnachu gyda gwledydd llai datblygedig, sy'n tyfu yn gyflym.

Hoffwn weld y DU yn ehangu marchnadoedd dan adain Cyfundrefn Fasnach y Byd (WTO) gan ddod i delerau hefyd gyda gwledydd yr UE.

Addysg unochrog?

Teimlaf fod darlithwyr yn rhannu ideoleg sy'n cael ei hau i fyfyrwyr, sydd yn aml yn ei sugno a ddim yn ei gwestiynu.

Yn y mwyafrif o ddarlithoedd dwi'n clywed safbwyntiau negyddol am Brexit a lluniau anffafriol o ymgyrch a chefnogwyr Vote Leave yn treiddio drwy'r cyflwyniadau. Beth sy'n fy nghorddi i ydy pa mor llechwraidd mae'r duedd - dydy o ddim yn teimlo'n hollol agored i mi.

Mewn darlithoedd a seminarau mae damcaniaethau adain chwith yn cael eu dadansoddi yn frwd tra mae damcaniaethau plwraliaeth ryddfrydol a neoliberal yn cael eu beirniadu yn unig neu eu hanwybyddu yn llwyr.

Image caption Beth fydd y berthynas rhwng Cymru a'r Undeb Ewropeaidd ar ôl Brexit?

Dydy addysg unochrog ddim o unrhyw fudd i fyfyrwyr chwaith. Dylai'r brifysgol fod yn fforwm agored i ddadlau a thrafod.

Sut all myfyrwyr gael addysg dda heb glywed dwy ochr y ddadl? Dylai academyddion proffesiynol ymrwymo i fod yn ddiduedd a gadael myfyrwyr siapio barn eu hunain.

Wrth i'r trafodaethau barhau dwi wir yn gobeithio y bydd ewyllys y bobl yn cael ei barchu ac y bydd y DU yn sicrhau'r cytundeb masnach gorau bosib gyda'r UE.

Dwi'n danbaid dros weld Cymru, o'r diwedd, yn ffynnu o ganlyniad i fedru masnachu yn rhwydd gyda gweddill y byd yn ogystal â pharhau ei pherthynas fasnachol lewyrchus gyda gwledydd yr UE.

Mae hi'r un mor bwysig i bobol barchu ei gilydd a chreu hinsawdd sy'n annog pobl - myfyrwyr yn enwedig - i leisio eu barn a thrafod yn adeiladol heb yr atgasedd na'r rhagfarn sy'n treiddio trwy'r byd gwleidyddol ar hyn o bryd.

Image copyright Aled Russell
Image caption Am ba hyd y bydd baner yr Undeb Ewropeaidd yn chwifio uwchben Swyddfa Cymru ym Mharc Cathays?