Warren Gatland yn gwneud 14 newid i herio Georgia

Seb Davies Image copyright Getty Images
Image caption Bydd Seb Davies yn ennill ei drydydd cap yn erbyn Georgia

Bydd chwaraewr ail reng y Gleision, Seb Davies, yn dechrau fel wythwr i Gymru wrth i Warren Gatland wneud 14 newid ar gyfer y gêm yn erbyn Georgia ddydd Sadwrn.

Mae Davies, 21, wedi ennill dau gap i Gymru fel clo, ond nid yw wedi chwarae fel wythwr i'w ranbarth na'r tîm rhyngwladol.

Liam Williams yw'r unig chwaraewr ddechreuodd yn erbyn Awstralia sy'n cadw ei le, ac mae yntau'n symud o'r asgell i safle'r cefnwr.

Y blaenasgellwr Dan Lydiate fydd yn gapten, a Sam Cross - enillodd fedal arian gyda thîm saith-pob-ochr Prydain yng Ngemau Olympaidd Rio - sy'n cwblhau'r rheng-ôl.

Mae Cross yn un o bedwar chwaraewr fydd yn dechrau gêm ryngwladol am y tro cyntaf, ynghyd â'r prop Leon Brown, y clo Adam Beard a'r canolwr Owen Watkin.

Image copyright Getty Images

Mae Rhys Webb yn dychwelyd fel mewnwr ar ôl gwella o anaf, a bydd y maswr Rhys Priestland yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf i Gymru ers haf 2016.

Bachwr y Dreigiau, Elliott Dee - sydd ar y fainc - yw'r unig chwaraewr yn y tîm o 23 sydd eto i ennill cap dros Gymru.

Dyma'r tro cyntaf erioed i'r ddwy wlad wynebu ei gilydd, ond bydden nhw'n cwrdd eto yn eu grŵp yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn Japan yn 2019.

Tîm Cymru i herio Georgia

Liam Williams; Alex Cuthbert, Scott Williams, Owen Watkin, Hallam Amos; Rhys Priestland, Rhys Webb; Nicky Smith, Kristian Dacey, Leon Brown, Adam Beard, Cory Hill, Dan Lydiate, Sam Cross, Seb Davies.

Eilyddion: Elliot Dee, Wyn Jones, Tomas Francis, Josh Navidi, Taulupe Faletau, Aled Davies, Dan Biggar, Owen Williams.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol