Uwch Gynghrair: Burnley 2-0 Abertawe

Jack Cork scores for Burnley Image copyright Rex Features
Image caption Gôl Jack Cork oedd y gyntaf yn Turf Moor

Doedd 'na fawr i godi calon cefnogwyr Abertawe yn Turf Moor wrth i'r Elyrch golli unwaith eto.

Er i Abertawe chwarae'n well na'u perfformiad gwael yn erbyn Brighton ni chafodd dychweliad Bony a Sanches fawr o effaith ar y canlyniad.

Daeth gôl gyntaf Burnley drwy symudiad gwych gan Jack Cork ar ôl hanner awr.

Cododd y bêl yng nghanol y cae cyn ei bwydo i Ashley Barnes a hwnnw yn ei dro yn ei phasio i Robbie Brady ar yr asgell chwith.

Croesodd yntau'r bêl ar ei hunion at ben Cork oedd wedi parhau ei rediad a chafwyd gôl hyfryd.

Wedi deg munud arall daeth yr ail gôl i Ashley Barnes gydag ergyd hyfryd o 25 llath.

Roedd na rywfaint o ymdrech gan Abertawe ac o'r diwedd fe gafwyd ymdrech oedd yn gorfodi arbediad gan golgeidwad Burnley a hynny o ben Bony.

Ond colli oedd hanes Abertawe unwaith eto.