'Cwestiynau' am drefn newydd benthyciadau myfyrwyr

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Mae Syr Deian Hopkin yn dweud bod y gyfundrefn ariannu yn gymhleth

Mae cyn-gadeirydd y corff sy'n gyfrifol am gyllid myfyrwyr wedi codi cwestiynau am ba mor effeithiol fydd y broses o gyflwyno newidiadau i'r drefn ariannu.

Fe fydd cymorth tuag at gostau byw yn hytrach na grant ffioedd dysgu ar gael i fyfyrwyr o Gymru sy'n dechrau cyrsiau o Fedi 2018.

Yn ôl Syr Deian Hopkin mae hanes y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn awgrymu y gallai'r corff wynebu problemau yn dod i'r afael a chymhlethdod y diwygiadau.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni eu bod yn hyderus y byddai'r corff yn barod i gyflwyno'r newidiadau.

Ar ôl adolygiad o drefn ariannu myfyrwyr Cymru fe wnaeth adroddiad gan yr Athro Ian Diamond argymell newidiadau pellgyrhaeddol i'r drefn.

Image copyright iStock
Image caption Bydd bob myfyriwr yn derbyn o leiaf £1,000 tuag at gostau byw dan y drefn newydd

Mae'n cynnwys cael gwared ar y grant tuag at ffioedd dysgu prifysgol a chynnig grant cynhaliaeth yn ei le.

Fe fydd y swm y bydd myfyrwyr yn ei dderbyn tuag at eu costau byw yn amrywio, gan ddibynnu ar incwm y teulu, lle maent yn astudio ac yn byw.

Bydd pob myfyriwr llawn amser o Gymru yn derbyn o leiaf £1,000 tuag at gostau byw.

Ond gall myfyriwr sydd ag incwm cartref o £18,370 neu lai dderbyn grant o £8,100 os ydynt yn astudio tu fas i Lundain, a mwy os ydynt yn astudio yn Llundain.

Cymhlethdod

Bydd cymorth tebyg ar gael i fyfyrwyr rhan amser, a bydd diwygiadau i'r drefn i ôl-raddedigion yn cael eu cyflwyno o 2019.

Mae Syr Deian yn croesawu'r diwygiadau, sy'n cynnig telerau sy'n "well i fyfyrwyr" yn ei ôl ef.

Ond dywedodd: "Yn y pendraw y prawf fydd a fydd myfyrwyr yn cael yr arian maen nhw'n haeddu ar y pryd, ac yn gyflawn.

"Dydy record y cwmni SLC (Student Loans Company) ddim yn dda iawn yn delio â chymhlethdod.

"Maen nhw wedi gwella ond fe fydd unrhyw newid yn y gyfundrefn yn taflu rhyw fath o gymhlethdod yn eu cyfeiriad nhw."

Image copyright Thinkstock
Image caption Mae'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn "hyderus" y byddan nhw'n gallu cyflwyno'r newidiadau

Yn 2010 roedd Syr Deian yn gadeirydd dros dro ar y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr ar ôl iddo gynnal adolygiad i fethiannau gan y corff.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni bod cynllun mewn lle er mwyn cyflwyno'r newidiadau i'r drefn gyllid i fyfyrwyr Cymreig.

Yn ôl y llefarydd: "Rydyn ni'n hyderus y byddwn ni'n barod pan fydd y gwasanaeth yn lansio flwyddyn nesaf.

"Mae gan y cwmni hanes o ddarparu gwasanaeth llwyddiannus i Gymru."

Image caption Does dim llawer o ymwybyddiaeth o'r newidiadau i'r drefn ariannu ym mhrifysgolion Lloegr medd Dafydd Walters

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw hefyd yn hyderus bydd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn llwyddo i gyflwyno'r diwygiadau.

"Ein system ariannu myfyrwyr fydd y drefn fwyaf blaengar a chyfiawn yn y Deyrnas Unedig," meddai llefarydd.

"Bydd ein system yn darparu cymorth fydd yn gydradd i bawb ar draws pob lefel a dull o astudio sydd heb ei ail yn y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd.

"Rydyn ni'n hyderus bydd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn gallu cyflwyno'r newidiadau a byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda nhw i wneud yn siŵr eu bod yn cael eu gweithredu'n llwyddiannus."

'Diffyg ymwybyddiaeth'

Mae nifer o fyfyrwyr chweched dosbarth yn gwneud ceisiadau ar gyfer cyrsiau prifysgol ar hyn o bryd.

Yn Ysgol Bro Myrddin yng Nghaerfyrddin mae siaradwyr wedi dod i annerch y chweched dosbarth ynglŷn â'r newidiadau i'r drefn ariannu.

Image caption Yn ôl Siân Elin Rees mae myfyrwyr heddiw yn derbyn eu bod nhw'n gadael y brifysgol gyda dyled

Mae Dafydd Walters yn ystyried astudio cwrs cyllid yn y brifysgol y flwyddyn nesaf.

Mae wedi bod ar ddiwrnodau agored i brifysgolion yn Lloegr, ac yn dweud mai prin iawn oedd yr ymwybyddiaeth o'r newidiadau sydd ar y gweill yng Nghymru.

"Odd gwybodaeth yna, ond falle ddim digon i bobl o Gymru, i gymharu â rhai o Loegr," meddai.

Dyled yn 'anochel'

Mae Siân Elin Rees yn teimlo'n lwcus y bydd hi'n derbyn bwrsari gan y Gwasanaeth Iechyd i astudio nyrsio.

Ond yn gyffredinol, meddai, mae dyled yn rhan anochel o fynd i'r brifysgol erbyn hyn, beth bynnag yw manylion y cymorth.

"Mae pawb yn meddwl, reit bydd dyled gyda ni a 'na fe," meddai.

"Fi'n credu bod pawb yn cymryd e ar eu plât nhw am ryw reswm."

Mwy ar O'r Senedd am 22:00 nos Fawrth, 21 Tachwedd ar S4C. Bydd hefyd modd gwylio'r rhaglen ar BBC iPlayer.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol