Y Ffrances sy'n rhoi lliw i lyfrau Cymraeg

Mae'r enw Valériane Leblond a'i darluniau trawiadol yn adnabyddus i ddarllenwyr nifer o lyfrau Cymraeg i blant. Hi ydy'r artist sy' wedi creu'r darluniau i gyd-fynd â geiriau awduron fel Caryl Lewis, Tudur Dylan Jones ac Elin Meek.


Image copyright Valériane Leblond

O ble wyt ti'n dod, a beth ddaeth â ti i Gymru?

Cefais fy ngeni a'm magu yn Angers, yng ngogledd orllewin Ffrainc. Fe wnes i astudio celf am flwyddyn yn Rennes a dyna lle gwrddais â'r gŵr Mathew. Roedd e yno ar flwyddyn Erasmus i astudio Llydaweg. Mae'r gŵr yn wreiddiol o Langwyryfon ar bwys Aberystwyth ac fe symudais i draw yma yn 2007.

Dwed ychydig am dy deulu

Mae gen i dri mab, Wyre sy'n saith, Alban sy'n bump a Nebo sy'n dair oed. Mae fy nhad yn dod o Ganada ac yn byw fan yna, ac mae fy mam a fy mam-gu a'm chwaer yn byw yn Ffrainc a dwi'n trio mynd allan yno ddwywaith y flwyddyn i'w gweld nhw gyda'r plant. Maen nhw'n mynd i'r ysgol yno tra ein bod ni ar ein gwyliau a chael gwersi yn y Ffrangeg.

Rydych chi'n amlwg yn deulu aml-ieithog

Fe ddysgais i Gymraeg ar ôl cwrdd â Mathew a dod i fyw yng Nghymru, ac fe ddysgodd e Ffrangeg ar ôl cwrdd â fi. Mae e'n siarad Llydaweg ond dydw i ddim.

Mae Llangwyryfon yn ardal Gymreig iawn, felly gan bod y plant yn siarad Cymraeg gan fwyaf tu allan i'r tŷ, rydyn ni wedi penderfynu siarad mwy o Ffrangeg gyda nhw yn y tŷ.

Os ydy'r pump ohonon ni'n cael trafodaeth yna mae'n Ffrangeg, ond mae'r gŵr yn siarad Cymraeg gyda'r plant.

Does dim Saesneg yn dod fewn i'n bywydau ni rhyw lawer ar hyn o bryd, mae'r ysgol yn Gymraeg yn Llangwyryfon ac mae'r rhan fwya' o'n ffrindiau ni'n siarad Cymraeg hefyd. Mae'r plant yn cael mynediad i ddiwylliant rhyngwladol, er enghraifft ffilmiau Disney, trwy'r Ffrangeg.

Mae'r rhan fwya' o blant yn cael eu magu mewn dwy iaith yn yr ardal yma, Cymraeg a Saesneg, ond mae fy mhlant i'n siarad Cymraeg a Ffrangeg ond mae Wyre yn dechrau dysgu Saesneg yn yr ysgol nawr hefyd.

Image copyright Valeriane Leblond

Mae dy ddarluniau yn aml yn adlewyrchu aelwydydd Cymreig, wedi eu lleoli yng nghefn gwlad ac ar yr arfordir ac yn adrodd straeon. Beth sy'n dylanwadu ar dy waith celf?

Mae'r ardal yma yn brydferth iawn. Mae ardal Trefenter a'r arfordir yng Ngheredigion yn ysbrydoli, mae'n bert iawn yma.

Rwy'n mwynhau 'neud cymysgedd o waith gwahanol. Rwy'n hoffi gwneud celf gain, a gweithio ar ddarnau o waith unigryw i oriel achos mae hwn yn dod o fy nychymyg i fy hun, a fi sy'n penderfynu beth dwi'n gwneud.

Ond rydw i hefyd yn hoffi gweithio ar gomisiynau fel llyfrau i blant a'r map chwedlau ac yn y blaen.

Gan gofio dy fod yn darlunio llawer ar gyfer llyfrau i blant, sut mae dy blant dy hun yn ymateb i dy waith?

Mae'r tri yn mwynhau darlunio ac yn mwynhau'r llyfrau Cymraeg dwi wedi eu darlunio. Maen nhw wedi dilyn y broses gyda phob llyfr, a bydda' i'n darllen y llyfr iddyn nhw cyn iddo gael ei gyhoeddi.

Dwi'n trio rhoi pethau iddyn nhw yn y lluniau, er enghraifft yn llyfr Siôn Corn a'r Anrheg Gorau Un gan Tudur Dylan Jones mae yna dri bachgen bach, ac mae gan un bachgen bach bengwin... wel, pengwin Alban ydy hwnna. Dwi'n aml yn rhoi dilledyn neu rhywbeth o'r plant yn y lluniau.

Image copyright Valériane Leblond
Image caption Tri bachgen bach yn cysgu yn o ddarluniau Valériane Leblond yn y llyfr Siôn Corn a'r Anrheg Gorau Un

Fel yn y llyfr, rydyn ni'n edrych ymlaen at y Nadolig nawr a dwi'n falch bod fy mhlant yn ddigon bach i fwynhau heb ofyn am anrhegion gwirion fel ffonau symudol a phethau diflas fel 'na!

Ar be' wyt ti'n gweithio y dyddiau yma?

Ar hyn o bryd dwi'n gweithio i wasg Riley ar atlas Cymraeg gydag Elin Meek.

Rwy hefyd yn paratoi darluniau o fy ngwaith fy hun ar gyfer arddangosfa fawr i Jen Jones yn Llanbed ym mis Mawrth, lle bydda' iyn cael ystafell i arddangos fy ngwaith. Rwy' hefyd yn gweithio ar lyfr i blant gyda gwasg yng Nghanada.

Wnes i ddim meddwl, pan oeddwn i'n tyfu fyny y byddwn i'n arlunio ar gyfer llyfrau i blant yn y Gymraeg, ond mae'n hyfryd gweld y gwaith mewn llyfr, mae'n hudolus.