Deian Hopkin
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

System ariannu myfyrwyr yn 'gymhleth' medd Deian Hopkin

21 Tachwedd 2017 Diweddarwyd 21:02 GMT

Mae Syr Deian Hopkin, oedd yn gyn-gadeirydd corff cyllido myfyrwyr, yn dweud bod newidiadau i'r drefn ariannu yn "gymhleth" ac mae'n pryderu a fydd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn effeithiol wrth gyflwyno'r newidiadau.

Fe fydd cymorth tuag at gostau byw yn hytrach na grant ffioedd dysgu ar gael i fyfyrwyr o Gymru sy'n dechrau cyrsiau o Fedi 2018.

Dywedodd Syr Deian nad oedd gan y cwmni "record dda iawn yn delio a chymhlethdod".

Mae Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn dweud eu bod yn "hyderus" y byddan nhw'n barod pan fydd y gwasanaeth yn dechrau'r flwyddyn nesaf.