Wrecsam 1-0 Solihull Moors

Paul Rutherford Image copyright Rex Features
Image caption Fe sgoriodd Paul Rutherford ei gôl gyntaf ar y Cae Ras i Wrecsam nos Fawrth

Mae Wrecsam wedi codi i frig y Gynghrair Genedlaethol yn dilyn buddugoliaeth yn erbyn Solihull Moors nos Fawrth.

Paul Rutherford sgoriodd unig gôl y gêm, gydag ergyd agos yn yr hanner cyntaf.

Fe gafodd golwr Wrecsam ei gadw'n brysur yn ystod yr ail hanner, gyda Solihull yn pwyso am gôl drwy gydol yr hanner.

Gan fod Dover Athletic, oedd ar frig y gynghrair wedi colli i Dagenham nos Fawrth, mae'r Dreigiau yn codi i'r prif safle yn dilyn eu buddugoliaeth.