Gwrthdrawiad angheuol yn Sir Benfro

A477 Image copyright Google
Image caption Fe ddigwyddodd y ddamwain ger pentre Redberth

Bu farw gyrrwr car yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gar yn Sir Benfro ar yr A477 rhwng Doc Penfro a Chilgeti.

Dywed llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys bod gwrthdrawiad rhwng Renault Clio coch a Mazda 6 coch wedi digwydd am 06:40 fore Mawrth.

Fe wnaeth gyrrwr y Clio ddioddef anafiadau angheuol.

Dylai unrhyw un a gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101, neu 07811 311 908 i'r rhai ac sydd â nam ar eu clyw. Gall pobl hefyd ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.

Pynciau Cysylltiedig