Rhith realiti i drin Ffibrosis Systig
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Technoleg rhith realiti i drin ffibrosis systig

24 Tachwedd 2017 Diweddarwyd 07:49 GMT

Yn y prawf cyntaf o'i fath ym Mhrydain, mae technoleg rhith realiti yn cael ei ddefnyddio i drin cleifion ffibrosis systig yn Ysbyty Llandochau, Caerdydd.

Un sydd wedi defnyddio'r dechnoleg yw Anthony Phillips o Bort Talbot.

Dywedodd ei fod o wedi mwynhau'r profiad: "Mae o'n tynnu'ch sylw chi ac yn mynd a'ch meddwl i rywle arall tra ydych chi'n gwisgo'r offer."