Rhybudd am rew ac eira mewn grym ar draws Cymru

rhew
Image caption Mae'r rhybudd mewn grym o 17:00 ddydd Gwener nes 10:00 fore Sadwrn

Mae rhybudd am rew wedi'i gyhoeddi ar draws Cymru o brynhawn Gwener nes bore Sadwrn.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai hefyd fwrw eira mewn rhai mannau, yn bennaf ar dir uchel, ac y dylai gyrwyr gymryd gofal a rhoi mwy o amser ar gyfer teithio.

Mae'r rhybudd melyn mewn grym o 17:00 ddydd Gwener nes 10:00 fore Sadwrn.

Yn ôl daroganwyr bydd band o law, eirlaw a chawodydd o eira yn symud o'r gogledd-orllewin i'r de-ddwyrain.

Fe allai hyd at 2cm o eira ddisgyn mewn mannau uwchben 200m, gan godi i 2.5cm i mewn mannau uwchben 300m.

Pynciau Cysylltiedig